Peshmerga

Baner Cyrdistan a ddefnyddir gan y Peshmerga fel eu harwyddlun

Y term a ddefnyddir gan y Cyrdiaid i gyfeirio at ryfelwyr arfog Cyrdaidd yw Peshmerga (Cyrdeg: Pêşmerge). Ystyr llythrennol y gair yw "y rheiny a wyneba farwolaeth" (o'r gair Cyrdeg pêş 'cyn' a merg 'marwolaeth'). Defnyddir y term 'Peshmerga' yn ogystal fel enw swyddogol lluoedd arfog Llywodraeth Ranbarthol Cyrdistan yng Ngyrdistan Irac, sef rhanbarth hunanlywodraethol y Cyrdiaid yn Irac.[1]

  1. The Middle East Journal

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search